Cyflwyniad

Ers 2001, mae Ewrolingo wedi bod yn darparu gwasanaeth cyfieithu, cyfieithu ar y pryd ac is-deitlo'n rheolaidd ar gyfer ystod eang o gyrff a busnesau mewn amryw sectorau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae ein cwsmeriaid rheolaidd yn cynnwys y canlynol:

Amgueddfa Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Coleg Sir Gâr, Cyfanfyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynyrchiadau Boomerang Cyf, Green Bay Media, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraethwyr Cymru, OCR Cymru, Opus TF, Prifysgol Abertawe, Sefydliad Joseph Rowntree, Y Sefydliad Tai Siartredig, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.

Mae ein cymwysterau, ein medrusrwydd, ein profiad a'r offer pwrpasol sydd gennym, ynghyd â'n ffordd drylwyr, hyblyg a chydwybodol o fynd ati, yn ei gwneud yn bosib i Ewrolingo ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf ar gyfer ein cwsmeriaid ar bob achlysur.

Defnyddiwch y dolenni ar y chwith er mwyn cael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth(au) penodol sydd o ddiddordeb i chi.

Os hoffech drafod eich anghenion, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg - mae ein manylion cysylltu i'w gweld uchod.

Enw masnachu Garmon Davies, aelod sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yw Ewrolingo. Os hoffech weld CV Garmon Davies, cliciwch yma. Os hoffech lwytho cerdyn busnes i lawr ar ffurf electronig, cliciwch yma.